RHOI: Ymgyrch Marchnata Integredig, Cyfathrebu a Newid Ymddygiad / Integrated Marketing, Communications and Behaviour Change Campaign
UK tender under the Procurement Act 2023. Pakistan is not a 'treaty state', so the buyer may disregard or exclude a Pakistani bid, but is not obliged to. Register free on Find a Tender and check the notice.
Summary from the notice
Mae RHOI wedi cael ei ysbrydoli gan lwyddiant CopenPay ac mae'n rhan o'r dull rhyngwladol ehangach DestinationPay. Mae'r egwyddor sylfaenol yn syml: anogir pobl i wneud rhywbeth cadarnhaol ar gyfer y lleoedd maen nhw'n ymweld â nhw ac, yn gyfnewid, derbyn gwobr gan fusnes neu sefydliad sy'n cymryd rhan. Bydd y rhaglen yn canolbwyntio i ddechrau ar Y Bala a Betws-y-Coed fel ardaloedd peilot, gyda'r nod o dyfu ar draws rhanbarth ehangach Eryri dros amser. Bydd gweithgareddau'n cael eu darparu gan amrywiaeth o sefydliadau partner, grwpiau cymunedol, busnesau a sefydliadau eraill. Bydd busnesau sy'n cymryd rhan yn darparu gwobrau i bobl sy'n cwblhau gweithgareddau cymwys. Mae enghreifftiau o'r mathau o ymddygiad y gallai RHOI eu hannog yn cynnwys dewis trafnidiaeth gyhoeddus, gwirfoddoli, cymryd rhan mewn gweithgareddau casglu sbwriel neu gadwraeth, cefnogi gweithgareddau diwylliannol lleol, dysgu neu ddefnyddio'r Gymraeg, a chymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n cyfrannu'n gadarnhaol at gymunedau ac amgylchedd yr ardal. Nid yw'r rhaglen wedi'i bwriadu i weithredu fel cynllun disgownt na theyrngarwch confensiynol. Rhoddir pwyslais ar annog pobl i wneud dewisiadau cadarnhaol a chymryd rhan mewn gweithgareddau ystyrlon, gyda gwobrau'n darparu cymhelliant ychwanegol. Felly, dylai'r ymgyrch ganolbwyntio ar newid ymddygiad yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth ac annog pobl i lawrlwytho’r ap. Ffordd ddefnyddiol o feddwl am daith y defnyddiwr arfaethedig yw: GWELD → DEALL → YMUNO → GWEITHREDU → DERBYN GWOBR → RHANNU → AILADRODD Disgwylir i'r cyflenwr llwyddiannus ddatblygu'r daith hon ymhellach a nodi'r cyfathrebiadau, yr ymyriadau ymddygiadol a'r gweithgaredd marchnata sydd eu hangen ym mhob cam. // Eryri National Park Authority is seeking to appoint an experienced marketing and…
BidKar lists this notice to help you find it. Bids go to the buyer through the portal named above, never through BidKar. Check the original documents for the latest dates and conditions.